Grwp o wirfoddolwyr angerddol, sy’n ymrwymiedig i wneud effaith bositif yn ein cymuned.
Ein cenhadaeth yw i ddiogelu, gwella a gofalu am natur yn ein tref.
Tref arfordirol ar benrhyn Llŷn yw Pwllheli, tref sydd wedi ei bendithio â harddwch naturiol helaeth a chynefinoedd amrywiol:- o’r môr, traethau, twyni, coetir, afonydd, gwlyptir,i borfeydd, i gyd yn cynnal lloches i niferoedd o blanhigion a rhywogaethau gwahanol o anifeiliaid.
Un o’r unig drefi ym Mhrydain i feddiannu ar warchodfa natur o fewn ei therfynnau, mae natur yn un o’r ffactorau sy’n diffinio Pwllheli. Mae’r warchodfa’n gyrchfan i adar mudol ddod i fagu ac fel cynefin i rywogaethau prin.
Dros y blynyddoedd, mae’r warchodfa wedi bod yn dyst i amryw o ymdrechion cadwraethol a chynlluniau rheolaethol i sicrhau cynaliadwyedd i’w sustemau eco. Mae grwpiau cymunedol, asiantaethau cadwraeth a gwirfoddolwyr wedi chwarae rhan allweddol drwy gynnal a gwella rhywogaeth naturiol y warchodfa.
Heddiw, mae’r warchodfa yn enghraifft o ymroddiad y gymuned leol i gadw a gwella prydferthwch naturiol yr ardal. Mae’n ddefnyddiol fel adnodd addysgiadol, gofod hamdden ac yn ran hanfodol o hunaniaeth y dre. Gall ymwelwyr fwynhau ei llwybrau, sylwi ar y bywyd gwyllt amrywiol a gwerthfawrogi rhyfeddodau natur yn y noddfa hynod yma.
Yn 2023, sefydlwyd Ffrindiau Pwllheli, gan aelodau ymroddedig o’r gymuned, ddaeth at eu gilydd yn sgil cynulliadau GwyrddNi. Cynulliadau cymunedol ar yr hinsawdd oedd y rhain rhwng Gorffennaf 2022 ac Ebrill 2023. Ffocws y grwp yw adeiliadu ar y gwaith sydd wedi ei wneud yn y gorffennol ac i sicrhau parhad a datblygiadau ym myd natur ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Trwy gydweithio â’r gymuned ac amrywiol bartneriaid byddwn yn ceisio gwella ansawdd ac argaeledd natur yn y dref. Ein cenhadaeth yw cefnogi bioamrywiaeth a dycnwch hinsawdd a sicrhau dyfodol saff a llewyrchus i natur, bywyd gwyllt a’r amgylchedd.
Cymuned – dod a phobl a phlant at eu gilydd
Hygyrchedd – dileu rhwystrau i natur
Bioamrywiaeth – cadw a gwarchod natur
Cynaliadwedd – gofalu am yr amgylchedd
Eiriolaeth – llais i natur ym Mhwllheli
Balchder – dathlu ac amlygu natur yn y dref
Derbyniasom arian yn ddiweddar i greu cynllun ar gyfer natur yn y dref. Bydd y cynllun yma’n cael ei siapio gan farn pobl leol a phartneriaid a bydd yn ffurfio sylfaen unrhyw ddatblygiadau i wella ac amddiffyn natur ym Mhwllheli.
Rydym am drefnu digwyddiadau cymunedol a chyfleon i wirfoddolwyr, fydd yn hyrwyddo natur yn yr ardal.
Rydym yn adeiliadu perthnasau a rhwydweithiau ac yn chwilio am gyfleon i gydweithio i wneud gwahaniaeth i’r dref.
Rydym yn ymchwilio cyfleon i ariannu gweithgareddau fydd yn arwain at gynnydd yn ein prif flaenoriaethau.
Er mai megis dechrau mae’r daith, rydym yn gyffrous am ddyfodol Ffrindiau Pwllheli. Edrychwn ymlaen i rannu cynydd a chyflawniadau gyda chi yn y dyfodol.
Cysylltwch os y dymunwch fod yn rhan o Ffrindiau Pwllheli neu weithio gyda ni. Tanysgrifiwch i’r newyddlen.
Copyright © 2024 Ffrindiau Pwllheli - All Rights Reserved.